Brexit yng Nghymru – Erthygl 50 a’r Uchel Lys: Beth mae’n ei olygu?

article-50-2-cy

Ar 3 Tachwedd 2016, penderfynodd Uchel Lys Lloegr a Chymru nad oes pŵer gan Brif Weinidog a Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r uchelfraint i sbarduno Erthygl 50 o Gytuniad Lisbon i ddechrau’r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gydsyniad y Senedd.

Beth yw pwerau uchelfraint?

Mae sefydliadau’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor o “bwerau ar wahân“: y weithrediaeth, y ddeddfwrfa a’r farnwriaeth, ac maent yn gweithredu ar yr egwyddor honno.

  • Mae’r weithrediaeth yn cynnwys y Goron a’r Llywodraeth (sy’n cynnwys y Prif Weinidog a Gweinidogion y Cabinet). Eu rôl yw cynnig cyfreithiau a gwneud polisïau;
  • Mae’r ddeddfwrfa yn cynnwys y Senedd, a’r holl Aelodau Seneddol nad ydynt yn rhan o Lywodraeth y DU. Eu rôl yw sicrhau bod penderfyniadau Llywodraeth y DU er budd pennaf y DU a’i phobl; ac
  • Mae’r farnwriaeth yn cynnwys yr holl farnwyr yn llysoedd y gyfraith, gan gynnwys llysoedd ynadon a thribiwnlysoedd. Penodir yr Uwch Farnwyr gan y Goron (neu’r Frenhines).

Mae’r egwyddor hon o “bwerau ar wahân” yn golygu y dylai ein Llywodraeth, ein Senedd a’n Barnwyr fod ar wahân o ran swyddogaethau.

Mae’r egwyddor yn awgrymu ei bod yn bwysig i’r holl bwerau hyn fod ar wahân rhag bod un o’r sefydliadau yn cael mwy o reolaeth dros y lleill – mae’n golygu dwyn i gyfrif a chadw cydbwysedd.

Yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, penderfynodd Llywodraeth y DU y byddai’n dechrau’r broses drwy ddefnyddio’i phŵer uchelfraint, a olygai na fyddai angen ymgynghori â’r Senedd yn y broses o wneud penderfyniadau. Roedd rhai yn dadlau bod canlyniad y refferendwm yn ddigon.

Pam oedd yr Uchel Lys yn rhan o hyn?  

Teimlai rhai pobl fod Llywodraeth y DU, drwy beidio ag ymgynghori â’r Senedd a chael Deddf Seneddol, yn gweithredu y tu allan i’w phwerau ac nad oedd yn rhoi cyfle i’r Senedd graffu ar ei dull o weithredu.

Gofynnwyd i’r Uchel Lys benderfynu, fel mater o gyfraith gyfansoddiadol y DU, a ddylid caniatáu i’r Llywodraeth sbarduno Erthygl 50 fel hyn heb gyfeirio’r mater at y Senedd.

Heddiw, dyfarnodd yr Uchel Lys y byddai’n anghyfreithlon i Lywodraeth y DU sbarduno Erthygl 50 heb Ddeddf Seneddol. Gallwch ddarllen y dyfarniad llawn yma.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn apelio yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys drwy fynd â’r mater i’r Goruchaf Lys y mis nesaf.

Beth yw barn Llywodraeth Cymru?

Yn dilyn penderfyniad yr Uchel Lys, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC, beth oedd sefyllfa Llywodraeth Cymru:

“Mae sefyllfa Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson gydol yr amser – rydym yn derbyn penderfyniad y bobl ac ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.”

“Rydym yn gweithio’n ddiwyd i gael y telerau gorau posibl i Gymru ar gyfer gadael yr UE. Fodd bynnag, mae’n bwysig bod pobl y pedair cenedl yn bwrw pleidlais er mwyn cryfhau sefyllfa negodi’r DU.”

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi bod yn edrych ar y goblygiadau i Gymru pan fydd y DU yn gadael yr UE. O fodelau masnach, y gyfraith ryngwladol a’r goblygiadau i amaeth ac ymchwil a buddsoddiad, mae’r Pwyllgor wedi bod yn clywed barn arbenigwyr i’w helpu i ddeall y materion y gallai Cymru eu hwynebu.

Bellach, mae’r Pwyllgor am glywed eich barn ynghylch beth ddylai fod y brif flaenoriaeth i Gymru cyn y broses ffurfiol o adael yr UE. Gallwch gyflwyno eich barn yma neu gael y wybodaeth ddiweddaraf drwy ddilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddMADY

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s