Rhannu arfer da wrth graffu (1)

Y Rheolwr Allgymorth Kevin Davies sy’n egluro…

Ar 12 Chwefror 2015 daeth staff a chynghorwyr o Bwyllgor Craffu Cyngor Abertawe i’r Cynulliad i drafod sut rŷm ni yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses graffu.

Rwyf newydd orffen ysgrifennu drafft cyntaf y blog hwn, ac roeddwn eisiau ei gadw mor fyr a chryno a phosibl. Rwyf wedi methu’n druenus, felly rwyf wedi penderfynu ei gyhoeddi’n dair rhan. Yn y rhan gyntaf (sef hon) byddaf yn amlinellu’r cyd-destun, yn sôn am rai o’r heriau, ac yn son am y trafodaethau a gafwyd gyda chriw Cyngor Abertawe.

Y cyd-destun

Mae cylch gwaith pwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn debyg iawn i bwyllgorau craffu cynghorau lleol:

  • edrych ar faterion a phynciau gwahanol y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw, ac ar ddiwedd y broses … gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno.

Dyma ffilm o un o gyfarfodydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar eu hymchwiliad ar sut y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ei Chynllun Cyflawni ar gyfer Canser:

http://www.senedd.tv/Meeting/Index/e5ceef9b-454b-41f0-b2c8-2838228ec357

Gall y broses hon fod yn un faith. Gall gwaith craffu pwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol  ar gyfreithiau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno (o edrych, dadansoddi, ac awgrymu gwelliannau i syniadau) gymryd sawl mis o’r dechrau i’r diwedd.

Mae Craffu, yng nghyd-destun y Cynulliad Cenedlaethol, yn golygu:

  • sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwario arian yn effeithiol;
  • sicrhau bod y cyfreithiau y mae Llywodraeth Cymru eisiau eu cyflwyno yn rhai da, ac;
  • adolygu polisïau Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol eisiau sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud ei gwaith yn iawn, gan weithredu fel corf gwarchod. Dyma’n union y mae pwyllgorau craffu cyngor yn ei wneud, ond yn hytrach nag edrych ar bethau ar sail Cymru gyfan, fel y mae ein pwyllgorau ni’n ei wneud, mae’ch pwyllgorau craffu cyngor lleol yn edrych ar y penderfyniadau a wnaed, ac ar yr arian a wariwyd gan arweinwyr cynghorau yn eich ardal leol.

Dyma fideo o Eluned Parrott AC yn esbonio gwaith Pwyllgor Menter a Busnes y Cynulliad Cenedlaethol:

Heriau

Os ydych yn bwyllgor craffu ar gyngor neu yn y Cynulliad Cenedlaethol, byddwch yn dibynnu ar y wybodaeth a gewch yn ystod y cyfnod ymgynghori, a all ddod o unigolion, grwpiau a/neu sefydliadau, ond weithiau nid ydym yn clywed gan yr amrywiaeth o bobl ag yr hoffem glywed ganddynt. Mae’n bosib bod hyn oherwydd bod y wybodaeth rŷm ni’n ei ddosbarthu yn dechnegol ac nad yw pobl yn deall y jargon a ddefnyddir; am nad ydynt yn cael gafael ar wybodaeth drwy wefannau’r Cynulliad Cenedlaethol neu’r cynghorau, cyfrifon twitter, tudalen Facebook, cylchlythyrau neu unrhyw ddull arall a ddefnyddiwn i geisio cyfathrebu â’n cynulleidfaoedd. Nid ydyn nhw’n gwybod bod ganddyn nhw’r cyfleoedd i gymryd rhan, neu nid ydyn nhw’n teimlo’n gyfforddus i gymryd rhan drwy ysgrifennu at bwyllgor.

Yn ôl yn 2013, cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru eu seminar Goleuni ar Graffu yn stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd , ym mis Medi 2014 cafodd y digwyddiad GovCamp Cymru cyntaf ei gynnal, Ac ym mis Tachwedd y llynedd cynhaliodd Dave McKenna (Rheolwr Craffu Cyngor Abertawe) sgwrs Twitter gan ddefnyddio #scrusm. Mae ein Pwyllgor Craffu ni a Chyngor Abertawe yn wynebu’r her o annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau craffu, felly, ar ôl cymryd rhan yn y sesiynau a grybwyllwyd uchod, mae Dave, Dyfrig (Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru) a fi wedi penderfynu dod at ein gilydd i drafod sut i geisio mynd i’r afael â’r mater.

Mae Dave a minnau wedi llunio agenda sy’n rhannu’n ddwy ran. Mae’r gyntaf yn ymwneud ag ymgysylltu’r cyhoedd â chraffu, ac yn fwy penodol:

  • sut y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud hynny;
  • sut y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn cynllunio hynny; a
  • pha effaith mae’n ei gael?

Mae’r ail ran yn seiliedig ar drafod sut rydyn ni’n defnyddio adnoddau ar-lein, apps a chyfryngau eraill er mwyn cyfathrebu â’r cyhoedd.

Daeth Peter Black a Mike Hedges, ill dau’n Aelodau Cynulliad o Abertawe, draw yn ystod y dydd i siarad am eu profiadau nhw wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu, sut y mae’n dylanwadu ar y broses graffu a’r argymhellion y mae’r pwyllgorau’n eu cyflwyno i weinidogion Llywodraeth Cymru.

Yn y bennod nesaf o’r blog, byddaf yn siarad yn fanwl am y pethau y buom yn siarad amdanyn nhw, a rhai o’r enghreifftiau a nodwyd yn ystod y dydd.

2 thoughts on “Rhannu arfer da wrth graffu (1)

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s