Y Cynulliad yn GovCamp Cymru

Ddydd Sadwrn 25 Medi, aeth Helia Phoenix (Golygydd y Wefan) a Kevin Davies (Rheolwr Allgymorth) i The Parade yn y Rhath ar gyfer GovCamp cyntaf Cymru (GovCamp Cymru). Er mwyn egluro, mae GovCamp yn fodd i bobl sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus ymgynnull i drafod, creu ac arloesi, gan edrych ar sut y gall technoleg, ffordd newydd o feddwl a gwasanaethau cyhoeddus wella cymdeithas—cylch gwaith mawr am ddigwyddiad undydd.

Mae GovCamp hefyd yn rhywbeth a ddisgrifir yn ‘anghynhadledd’ – sy’n golygu na phennir agenda ymlaen llaw, ac nid oes prif siaradwyr. Caiff pobl ddod a chynnig pynciau trafod ar gyfer y sesiynau, ac yna cynhelir pob sesiwn yn ei hystafell ei hun, a chewch fynd o ystafell i ystafell yn cymryd rhan yn y sesiynau hynny sy’n mynd â’ch bryd.

Mae’n bosibl y bydd terminoleg fel ‘anghynadleddau’ ac ati yn annifyr gennych ac yn gwneud i chi feddwl mai rhywbeth i selogion y we a thechnoleg ydyw, ond y gwir yw bod y sgyrsiau yn ymwneud â phynciau eang iawn (ddydd Sadwrn, trafodwyd pethau fel ymgysylltu, craffu, y defnydd o iaith (y Gymraeg ac iaith glir), addysg, ac ati).

Yn y bore, aethom i sesiwn ar ddemocratiaeth ar-lein dan ofal Dave McKenna, sy’n Rheolwr Craffu i Gyngor Abertawe. Yn ôl Dave, roedd y sesiwn yn ymwneud â’r cofnodion, yr agendâu, yr adroddiadau, ac ati y mae llywodraeth leol, llywodraeth ddatganoledig a llywodraeth genedlaethol yn eu cynnig ar eu gwefannau. Y syniad yn fras oedd dechrau sgwrs am sut y gellir gwella’r pethau hyn, pwy sy’n eu defnyddio, beth sydd ei eisiau arnynt, ac yn y blaen.

Wrth iddo ysgrifennu ei nodiadau am y sesiwn, cododd Dave saith cwestiwn ar gyfer llywodraeth (yn amlwg, maent yn berthnasol i’n gwaith ni yn y Cynulliad hefyd).

Roedd yr ail sesiwn yr aeth Helia iddi yn ymwneud ag ‘Ynfydrwydd mis Mawrth’, a oedd yn ymwneud â chyllidebu a chynllunio gwell ar gyfer gwario drwy gydol y flwyddyn ariannol. Ysgrifennodd Helia rywbeth ar y sesiwn ar gyfer blog Tîm Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y diwrnod:

Os ydych yn gweithio mewn tîm prysur â thempo cyflym, fel fy nhîm i, rydych yn aml yn brysur iawn yn ‘gwneud y gwaith’. Dylai cyllidebu ar gyfer y flwyddyn i ddod fod yn un o brif destunau sylw eich gwaith, a dylech edrych drachefn ar y cynllun hwnnw drwy gydol y flwyddyn a’i newid wrth fynd ymlaen. Ond nid yw rhai pobl yn ei reoli cystal ag y gallent. Daeth unigolion o awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i’r sesiwn, a buom yn trafod y ffaith bod arian yn eithriadol o brin yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd, felly mae’n bwysicach nag erioed fod yn bragmatig wrth gyllidebu. Rhannodd y grŵp rai enghreifftiau o arfer gorau o ran sut y gellir rheoli cyllideb.

Deuthum oddi yno â dwy enghraifft wych; y naill yn un syml iawn y gall unrhyw un ei gyflawni yn ei dîm ei hun, a’r llall yn un llawer mwy cymhleth a fyddai’n gofyn am gefnogaeth uwch-reolwyr.

1 – yr ateb syml. Cafwyd hwn gan Gyngor Torfaen. Drwy gydol y flwyddyn, mae’r tîm hwn yn gweithredu drwy wario ar bethau sy’n bwysig i fusnes y cyngor, ond maent hefyd yn gwneud rhestr o bethau y byddai’n dda ganddynt ei wneud pe bai arian ar ôl ar ddiwedd y flwyddyn (e.e. uwchraddio eu technoleg, efallai brynu meddalwedd newydd, ac ati). Yna, ym mis Chwefror, os byddant wedi tanwario, gallant ddefnyddio’r arian yn y ffordd honno. Felly, er eu bod yn dal yn dod o dan batrwm gwariant ‘Ynfydrwydd mis Mawrth’, maent yn gwneud hynny mewn ffordd strwythuredig sy’n sicrhau eu bod yn defnyddio eu harian yn y ffordd orau bosibl.

2 – yr ateb cymhleth. Mae gan Gyngor Mynwy gronfa ganolog o arian sy’n cael ei defnyddio fel cronfa arloesedd. Mae’r adrannau sy’n llwyddo i arbed arian a thanwario erbyn diwedd y flwyddyn yn rhoi’r arian hwnnw yn y gronfa honno. Defnyddir hanner i dalu dyledion, ond caiff adrannau eraill wneud cais am yr hanner arall. Maent yn rhoi syniadau am brosiectau maent am eu rhedeg, a bydd uwch-reolwyr yn penderfynu sut y bydd yr arian yn cael ei ddyrannu ymysg y prosiectau hynny. Yn y modd hwn, gwobrwyir adrannau ar gyfer rheolaeth ariannol dda, a rhoddir iddynt hefyd beth rhyddid i roi cynnig ar ffyrdd gwahanol o gyflwyno eu gwasanaethau na fyddai’n bosibl fel arall.

Mae’n bosibl na fyddwch yn darbwyllo neb yn eich sefydliad i roi cynnig ar Ateb 2, ond mae Ateb 1 yn ffordd hawdd iawn o strwythuro gwariant fel y bydd arian yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau bosibl. Gall unrhyw un ei wneud.

Ar ôl cinio, cynhaliodd Helia sesiwn, gan ofyn y cwestiwn: ‘beth yw diben gwefannau?’. I ryw raddau, parhau â sesiwn y bore ar ddemocratiaeth ar-lein yr oedd y sesiwn hon: a oes angen gwefan os ydych yn ei defnyddio i hybysu’r cyhoedd a dim byd arall? Oni allwch chi ddefnyddio Facebook i gyfathrebu â’ch darllenwyr ac yna ryw fath o storfa ddogfennau ar-lein (tebyg i Google Dogfennau, nad yw’n ddim namyn llyfrgell ddogfennau ar-lein yn y bôn)? Codwyd llawer o bwyntiau diddorol gan gynrychiolwyr cymdeithasau tai, cynghorau lleol, a Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) yn Llundain a hefyd gan dîm cyfathrebu corfforaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r nodiadau o’r sesiwn ar gael yma.

Aeth y sesiwn honno ymhell dros ei hamser, ond fe wnaethom ddal munudau olaf y grŵp a oedd yn trafod y posibilrwydd o greu sefydliad fel GDS yng Nghymru. Mae nodiadau o’r sesiwn honno ar gael yma

Ar y cyfan, roedd yn wych cael cwrdd â chynifer o bobl sy’n gweithio ym maes ymgysylltu â’r cyhoedd ar ryw ffurf (roedd llawer wedi dod o Loegr i weld sut mae pethau’n cael eu gwneud yng Nghymru). Roedd hefyd yn wych rhannu arferion gorau a gweld enghreifftiau o waith mewn mannau eraill y gallem eu benthyg i wella pethau yma.

Os oes diddordeb gennych, gallwch weld rhestr lawn yr holl sesiynau a gynhaliwyd yma ar Google Docs

One thought on “Y Cynulliad yn GovCamp Cymru

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s