System anrhydeddau i Gymru – Mynnwch Lais

Gan ein bod wedi cael ymateb mor dda i’r cais am safbwyntiau ar system anrhydeddau i Gymru, rydym yn gadael y blog ar agor ar gyfer sylwadau am wythnos ychwanegol tan 19 Chwefror. 

Yna bydd y sylwadau yn cael eu coladu a’u trafod gan y Pwyllgor Deisebau ar 9 Mawrth.   

Bydd y wybodaeth ddiweddaraf ar gael yma, unwaith i’r Pwyllgor drafod eich sylwadau.

Diolch am eich cyfraniadau hyd yn hyn.

****

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried deiseb sy’n galw am gyflwyno system anrhydeddau i Gymru ac mae’n awyddus i glywed eich sylwadau am hyn.

A ydych chi’n credu bod hwn yn syniad da ai peidio? Beth yw eich barn am hyn?

Os ydych yn credu bod hwn yn syniad da, pwy hoffech chi weld yn cael eu hanrhydeddu? Pa fath o weithgareddau rydych chi’n credu ddylai gael eu hanrhydeddu, a sut fath o anrhydeddau y dylid eu rhoi?

A oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau eraill ynghylch y mater?

Rhowch eich sylwadau isod, neu gallwch eu hanfon ar neges e-bost atom ni, petition@cymru.gsi.gov.uk neu gallwch ysgrifennu atom:

Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Deisebau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Caerdydd
CF99 1NA

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi gofyn am farn pobl ar y mater hwn o’r blaen, ond mae’n gwneud hynny eto er mwyn sicrhau bod rhagor o bobl yn cael cyfle i fynegi barn.

Os hoffech gael y diweddaraf am y mater hwn, cadwch lygad ar y blog hwn, gan y byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf ar ôl i’r Pwyllgor ystyried yr ymatebion a gafwyd.

Caiff yr holl sylwadau a roddir ar y fforwm drafodaeth eu cymedroli gan staff Cynulliad Cenedlaethol Cymru o flaen llaw, sy’n golygu na fydd sylwadau a gyflwynwyd yn ymddangos ar unwaith ar y wefan. Bydd y gwaith cymedroli’n digwydd rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio dyddiau gŵyl y banc).

3 thoughts on “System anrhydeddau i Gymru – Mynnwch Lais

  1. Dwi’n argyhoeddedig ers talwm bod angen rhywbeth o’r fath.
    i) Mae’r drefn bresennol yn ddiffygiol mewn sawl agwedd:

    mae’n ffafrio rhai sy’n dal swyddi yn y sector cyhoeddus, weithiau dim ond ar sail hirhoedledd yn y swydd, statws (ee swydd reoli uwch o fewn y gwasanaeth suful neu ar bwyllgorau cyrff cyhoeddus) neu fath o yrfa (ee milwrol, heddlu, system weinyddu cyfiawnder)
    mae’n dewis rhai ‘pobl gyffredin’ i’w gwobrwyo ar seiliau mympwyol yn anad dim, er mwyn creu’r argraff bod y ddysgl yn wastad o safbwynt dosbarthu anrhydeddau (mae’r ystadegau’n dangos yn bur wahanol)
    mae’na lawer o feysydd lle nad yw cyrhaeddiad yn cael ei gydnabod yn ddigonol, yn enwedig lle mae’r cyrhaeddiad mewn meysydd sydd yn arbennig o berthnasol i Gymru a’i gwerthoedd ond eto heb fod yn apelio at werthoedd ‘Prydeinig’ Seisnig – ee: gw. rhai enghreifftiau isod
    Yn gam neu’n gymwys, mae na nifer o Gymry haeddiannol wedi gwrthod derbyn anrhydedd o dan y drefn bresennol oherwydd ei gysylltiad ag Ymherodraeth a choron Lloegr – gwell ganddynt fynd heb gydnabyddiaeth gyhoeddus na gorfod diolch i’r teulu brenhinol amdani.

    ii) Fe fyddai’n gyfle heb ei hail:
    i ysbrydoli pobl Cymru, yn enwedig yr ifainc, gydag esiamplau o’r genedl sydd wedi ymdrechu a chyflawni, gorchestu neu estyn dwylo dros eraill mewn modd aberthol neu ddygn
    i gynnwys y bobl a’r meysydd sydd yn cael eu hanwybyddu gan y drefn bresennol
    i godi bri Cymru fel gwlad a dangos ein bod ni’n ymfalchïo yn ein cyraeddiadau

    iii) Gaf fi awgrymu y byddai’n dda hefyd pe bawn ni hefyd yn gallu cydnabod ambell un o’r tu faes i Gymru hefyd neu gydnabod y Gwobrau rydym eisoes yn eu dyfarnu o bryd i’w gilydd – megis Artes Mundi, Gwobr Dylan Thomas; h.y fel y mae’r Academie Francaise yn cydnabod rhai tramorwyr sydd eisoes wedi ennill bri yn Ffrainc.
    Cofiaf yn dda yr adwaith a fu i pan ddyfarnwyd gwobr gan Gyngor y Celfyddydau i’r bardd Derek Walcott, ymhell o flaen eraill.

    Anrhydedder rhai fel:
    Peter Lord – am lafur oes yn gweddnewid ein dealltwriaeth o draddodiad gweledol Cymru
    Dr Mark Clement – am arloesi ym maes y laser a datblygu economi Cymru
    Athro Tim Maugham am ei waith ym maes canser a gweithio gyda chleifion
    Dr John Davies – am fywiogi a dehongli hanes Cymru o’r newydd
    Iolo Williams – am gyflwyno bywyd gwyllt Cymru i’r Cymry ac i’r byd
    Gwilym Roberts am gyflwyno’r iaith Gymraeg yn llwyddiannus i rai cannoedd o unigolion

    a gallaf bentyrru dwsin a mwy o enghreifftiau eraill o wahanol feysydd elusennau a gwirfoddoli etc

  2. Ai system anrhydeddu Llywodraeth Cynulliad Cymru neu gan aelodau Y Cynulliad?

    Byswn i’n dweud y bydd hi well creu sefydliadau Cymreig, megis Sefydliad Cymreig Y Gwyddorau Naturiol a gadael i gorff tebyg anrhydeddu pobol.

    Yn debyg i sut mae’r L’Académie française yn anrhydeddu pobol, mae gennym Yr Academi Gymreig. Gall Yr Academi Gymreig gael y cyfle i anrhydeddu bobol rhagorol yn y maes.

    Dylid fod yn llym gyda phwy sy’n gymwys i gael eu anrhydeddu, neu gallaf ddarogan rwan pwy fydd yn derbyn y fath beth: Shirley Bassey, Siân Lloyd, Joe Calzaghe, Dylan Thomas neu unrhyw berson arall sydd a chysylltiad Cymreig yn ôl y Western Mail, fel Kylie Minogue.

Comments are closed.