Y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff – 10 Mai 2017

Gan Abi Lasebikan, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant a Chydgysylltydd a Chyd-gadeirydd Rhwydwaith Cydraddoldeb yn y Gweithle’r Cynulliad ar Hil, Ethnigrwydd a Threftadaeth Ddiwylliannol

National Day for Staff networks log
Y logo ar gyfer y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff

Bydd y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff y diwrnod cyntaf erioed yn y DU sy’n ymroddedig i ddathlu pob rhwydwaith yn y gweithle, gan gydnabod gwerth a chyfraniad rhwydweithiau i sefydliadau a’r ffaith bod rhwydweithiau yn gwneud gwaith yn well.

Nod y diwrnod yw annog rhwydweithiau staff i ddathlu ar y cyd a sôn am eu cyflawniadau, ac i newid y sgwrs am rwydweithiau yn y gweithle fel eu bod yn cael eu hystyried yn hanfodol i fusnes ac yn fecanweithiau effeithiol o ran arloesedd a chynhwysiant.

Cyfeirir at ein rhwydweithiau fel Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle i adlewyrchu’r ffaith eu bod yn agored i holl Aelodau’r Cynulliad, staff cymorth, staff y Comisiwn a chyflogeion ein contractwyr ar y safle i ymuno fel aelodau neu fel cyfeillion. Maent yn lle i bobl sy’n uniaethu â grŵp nodwedd warchodedig a/neu sydd â diddordeb mewn materion sy’n ymwneud â mater amrywiaeth penodol, ddod at ei gilydd. Rydym yn cydnabod y gall unrhyw un, nid dim ond y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, fod â diddordeb mewn mater cydraddoldeb penodol.

Mae’r Cynulliad yn cydnabod bod y Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle yn allweddol wrth helpu’r sefydliad i gyrraedd ei nod o sicrhau amgylchedd gwaith diogel, cynhwysol ac amrywiol i bawb ac i fod yn sefydliad democrataidd a deddfwrfa sy’n darparu’n effeithiol ar gyfer pawb yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod cyfranogiad ein rhwydweithiau felly yn rhan hanfodol o’r gydberthynas gyflogaeth ac nid yn swyddogaeth ychwanegol i ddisgrifiad swydd cyflogai.

Felly, rydym yn falch o gael cymryd rhan yn y dydd, gyda’r Rhwydweithiau Cydraddoldeb yn y Gweithle yn trefnu gweithgareddau ac erthyglau i hyrwyddo’r rhwydweithiau a’n cydnabyddiaeth o’u gwerth inni.

Continue reading “Y Diwrnod Cenedlaethol ar gyfer Rhwydweithiau Staff – 10 Mai 2017”

Mae’r Hawl i Brynu yng Nghymru yn newid

R2B ELGC Keyring 2 CY

Fi yw John Griffiths AC (@JGriffithsLab), Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

27889494760_3afbddf86e_m

Gwybodaeth am y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu

Ar 13 Mawrth, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC, y Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) gerbron y Cynulliad. Nod y Llywodraeth ar gyfer y gyfraith arfaethedig yw diogelu’r cyflenwad o dai cymdeithasol yng Nghymru drwy roi diwedd ar bob amrywiad o’r hawl i brynu a’r hawl i gaffael.

Beth mae’r newidiadau arfaethedig yn ei olygu?

Byddai’r hawl i brynu ar gyfer tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig yn cael ei ddiddymu ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf ar ôl cyflwyno’r gyfraith. Drwy gyflwyno’r gyfraith arfaethedig, nod Llywodraeth Cymru yw diogelu stoc tai cymdeithasol Cymru rhag gostwng ymhellach, gan sicrhau y darperir tai diogel a fforddiadwy i bobl nad ydynt yn gallu cael mynediad i’r farchnad dai i brynu neu rentu cartref.

Mae rhai awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir y Fflint, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn eisoes wedi atal y cynllun hawl i brynu. Byddai’r gyfraith arfaethedig yn rhoi diwedd ar y cynllun hawl i brynu yn holl awdurdodau lleol Cymru.

Sut gallai’r newidiadau effeithio arnaf i?

Wrth sicrhau bod tenantiaid presennol yn ymwybodol o’r newidiadau, mae’r gyfraith arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth am ei heffeithiau cyn i’r diddymu ddigwydd, ac mae hefyd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol yn eu tro ddarparu’r wybodaeth honno i’r holl denantiaid y mae hyn yn effeithio arnynt o fewn dau fis wedi i’r gyfraith arfaethedig ddod i rym. Ar ôl cyfnod o flwyddyn o leiaf wedi i’r gyfraith ddod i rym, bydd yr holl hawliau’n cael eu diddymu. Mae hyn yn golygu y gall pob tenant y mae hyn yn effeithio arno arfer ei hawl i brynu o fewn y cyfnod hwnnw, ond nid wedi hynny.

Yr hawl i brynu ar draws y DU

Mae Llywodraeth yr Alban eisoes wedi rhoi terfyn ar yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn yr Alban, ond mae Llywodraeth y DU yn gweithredu’n wahanol yn Lloegr. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno ei chynlluniau ei hun i ymestyn y polisi hawl i brynu i fwy o gartrefi.

R2B2

Gwaith y Pwyllgor

Mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn grŵp o wyth Aelod Cynulliad o bob cwr o Gymru sy’n cynrychioli cyfansoddiad gwleidyddol y Cynulliad. Ein gwaith ni yw craffu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar faterion yn ein cylch gwaith i sicrhau eu bod er budd gorau Cymru a’i chymunedau.

Gan fod pwnc y gyfraith arfaethedig yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor, gofynnwyd inni edrych ar ei ‘egwyddorion cyffredinol’ neu’r prif nodau. Gelwir hyn yn ‘Gyfnod 1’, ac rydyn ni’n defnyddio’r rhan hon o’r broses i glywed tystiolaeth ac i lunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru am newidiadau i’r gyfraith arfaethedig os oes angen. Mae gennym tan 7 Gorffennaf i wneud hyn.

Cymryd rhan

Ym mis Mai, mae’r Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiynau ymgysylltu â’r cyhoedd ledled Cymru i glywed barn tenantiaid am y gyfraith arfaethedig a’r goblygiadau iddyn nhw. Bydd y safbwyntiau hyn yn helpu i lywio ymchwiliad y Pwyllgor, ynghyd â’r dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a ddaw i law.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y sesiynau hyn, neu os hoffech i ni ymweld, anfonwch e-bost at celyn.cooper@cynulliad.cymru.

Mae tudalen wê DialogueApp hefyd ar agor i chi gael mynegi eich barn a rhannu eich syniadau ar y Bil.

Y wybodaeth ddiweddaraf

I gael yr holl wybodaeth a’r datblygiadau diweddaraf, gallwch:

R2B ELGC Homes 1 CY

Y Cynulliad wedi’i cydnabod unwaith eto efo enwebiad ar gyfer Gwobrau Gwychder Cymru Gweithredu ar Golled Clyw Cymru

Logo Gwobrau Gwychder Action on Hearing Loss CymruRydym yn falch iawn ein bod ar y rhestr fer unwaith eto yng Ngwobrau Gwychder Gweithredu ar Golled Clyw Cymru. Eleni rydym ar y rhestr fer ar gyfer y categori Rhagoriaeth Gwasanaeth ac wedi cael ein cynnig ar gyfer Gwobr Dewis y Bobl.

Rydym yn ymdrechu’n barhaus i ragori yn ein ddarpariad o wasanaethau i bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw ac rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd newydd i wella’r gwasanaeth hwnnw. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu gwasanaethau i bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw drwy:

  • Ymgysylltu â sefydliadau byddar ledled Cymru. Rydym yn rhoi cyflwyniadau i annog ymgysylltiad democrataidd ac wedi defnyddio fideos Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a chymorth i gyfathrebu pan fo angen.
  • Sicrhau bod gennym systemau dolen ar gael ar draws ein hystâd a dolenni chwyddo sŵn cludadwy i bobl ar deithiau.
  • Darparu BSL ac is-deitlau ar gyfer Cwestiynau’r Prif Weinidog – dyma’r agwedd fwyaf poblogaidd o Fusnes y Cynulliad.
  • Defnyddio fforymau ymgynghori ar-lein fel Diolog a Loomio i gynyddu ymgysylltu democrataidd ar-lein.

Rydym hefyd wedi sicrhau bod gan ein staff hyder a chefnogaeth i gyfathrebu’n effeithiol â phobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Rydym wedi gwneud hyn drwy:

  • Cyflwyno hyfforddiant cydraddoldeb ar-lein gorfodol sy’n cynnwys ymwybyddiaeth o anabledd ac addasiadau rhesymol wrth gyfathrebu â phobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw. Yn ogystal, mae llawer o staff, gan gynnwys ein staff sy’n wynebu’r cyhoedd, wedi dilyn hyfforddiant Hyder Anabledd i sicrhau y gallant ymateb yn effeithiol i anghenion pobl. Mae nifer o staff wedi ychwanegu at hyn gyda hyfforddiant ymwybyddiaeth o fyddardod drwy gyflawni cwrs BSL i lefel 2.
  • Datblygu taflenni ffeithiau ar hyrwyddo hyder anabledd, gwneud addasiadau rhesymol, cyngor ar gyfer cyfathrebu’n effeithiol a threfnu cymorth cyfathrebu. Rhannwyd y rhain gyda’n holl staff trwy ein mewnrwyd.

Gallwch bleidleisio dros y Cynulliad i ennill Gwobr Dewis y Bobl yn https://www.surveymonkey.co.uk/r/excellencewales

 

Blog-CTA-CY


Os ydych chi wedi ymweld â’r Cynulliad ac am wneud adolygiad, gallwch wneud hynny ar wefan Euan’s Guide.

Os ydych chi wedi ymweld â’r Cynulliad, defnyddio ein gwefan neu gysylltu â ni mewn ffordd arall ac yr hoffech roi adborth, gallwch gysylltu â ni drwy:

Penodiadau Gweinidogol: Gwrandawiadau cyn penodi

Simon ThomasGwnaeth Simon Thomas AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Ebrill 2017 ar ran y Pwyllgor, yn amlinellu profiad y Pwyllgor hwn o’i wrandawiad cyn penodi ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.

Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu i gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru a bydd yn weithredol o fis Ebrill 2018. Adran anweinidogol Llywodraeth Cymru yw Awdurdod Cyllid Cymru. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn credu y byddai gwrandawiad cyn penodi yn fuddiol o ystyried y statws a’r trefniadau llywodraethu unigryw ar gyfer Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.

Cafodd y Pwyllgor ei galonogi gan ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i dryloywder ac atebolrwydd wrth recriwtio penodiadau cyhoeddus, a chroesawodd y cyfle i helpu i wella’r weithdrefn hon ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol. Cydnabu’r Pwyllgor ymrwymiad yr Ysgrifennydd Cabinet i wrandawiadau cyn penodi; yn wir, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet erthygl yn 2012 lle cydnabu bwysigrwydd gwrandawiadau cyn penodi. Mae’r Cadeirydd yn cydnabod bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi cymryd y camau cyntaf i dynnu arferion y Cynulliad yn unol â chyrff seneddol eraill sydd eisoes wedi sefydlu proses mewn perthynas â gwrandawiadau cyn penodi.

Yn natganiad y Pwyllgor, bu’r Cadeirydd yn manylu’r canlyniadau adeiladol a gafwyd o’r gwrandawiad, gan gynnwys rhoi cyfle i’r ymgeisydd wynebu craffu seneddol mewn lleoliad cyhoeddus, sy’n rhywbeth y mae angen i’r sawl a benodir i swydd ar y lefel hon fod yn barod amdano.

Yn y datganiad, dywedodd y Cadeirydd fod lle i wella fel yn achos unrhyw weithdrefn newydd. Amlinellodd awgrymiadau’r Pwyllgor Cyllid ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol, sy’n cynnwys:

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu pam mae’r Gweinidog/Ysgrifennydd y Cabinet yn credu bod yr ymgeisydd yn addas ar gyfer y swydd.
  • Amser adrodd ychwanegol yn yr amserlen.
  • Gosod rhestr benodol o benodiadau cyhoeddus lle y mae’n rhaid cynnal gwrandawiad cyn penodi.
  • Gweledigaeth y Cadeirydd ar gyfer gwrandawiadau cyn penodi yn y dyfodol yw eu bod yn cryfhau tryloywder ac atebolrwydd penodiadau gweinidogol, a fydd yn gwneud y cyhoedd yn fwy hyderus ynghylch y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad fel ei gilydd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am Bwyllgor Cyllid y Cynulliad yn cynulliad.cymru/seneddcyllid. Gallwch hefyd ddilyn y Pwyllgor ar Twitter @SeneddCyllid.

Dechreuwch eich gyrfa mewn diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym yn cymryd diogelwch o ddifrif yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Y llynedd, gwnaethom groesawu dros 60,000 o ymwelwyr i’n hadeiladau, croesawu EUB y Frenhines yn Agoriad Swyddogol y Cynulliad a gweiddi cymeradwyaeth ar gyfer ein Olympiaid a Pharalympiaid yn y digwyddiad Dychwelyd Adref.

Swyddogion Diogelwch

Mae ein tîm Diogelwch yn sicrhau diogelwch a diogeledd pawb sy’n gweithio yn y Cynulliad neu’n ymweld ag ef a nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl ymwelwyr â’r ystad.

Rydym yn bwriadu creu rhestr wrth gefn ar gyfer ymuno â’n tîm diogelwch yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Felly, os hoffech gael gwybod pan fydd swyddi newydd ar gael, cysylltwch â ni.

A oes gennych ddiddordeb? 

Ein Swyddogion Diogelwch Laura, Shane a Dean yn siarad am pam efallai mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r lle i chi.

Sut mae gweithio yma yn wahanol i swyddi diogelwch eraill?

“Dwi ddim yn meddwl fy mod wedi defnyddio Cymraeg yn unrhyw un o fy swyddi eraill. Rwy’n hoffi siarad â’r cyhoedd, ac mae siarad â chydweithwyr Cyswllt Cyntaf yn helpu i godi safon fy Nghymraeg.”
Shane

“Mae’n fwy o her. Roeddwn i’n arfer gweithio mewn siop goffi ac rydw i wedi ennill cymaint mwy o sgiliau yn gweithio yma.”
Laura

“Mae’n wych i deuluoedd ac mae’r amgylchedd yn wirioneddol gefnogol.”
Dean

Agoriad swyddogol y pumed Cynulliad

Trwy ymuno â Chynulliad Cenedlaethol Cymru byddwch yn cael gweithio mewn dau o adeiladau mwyaf eiconig Cymru – y Senedd a’r Pierhead – a gweld gwleidyddiaeth Cymru ar waith yn y Siambr.

Mae rhai sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais fod yn gallu:

  • deall brawddegau pan fydd pobl yn siarad am sefyllfaoedd bob dydd, a
  • chynnal sgwrs ar destun cyffredin ee gwaith, hobïau, cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Beth ydych chi’n ei hoffi am weithio i’r Cynulliad?

“Rydych yn cwrdd â phobl ddiddorol, mae yna rhywbeth ymlaen drwy’r amser.”
Shane

“Bob dydd mae rhywbeth gwahanol, mae digwyddiadau gwahanol ymlaen, ac rydych yn dysgu sut i drin pobl sydd ag anghenion gwahanol. Yn fy swydd ddiwethaf ni fyddwn i wedi teimlo’n hyderus â hynny, ond mi ydw i nawr.”
Laura

Mae ein staff diogelwch yn cael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion ymwelwyr ag anableddau, neu a allai fod â gofynion penodol yn seiliedig ar eu credoau crefyddol.

Olympiaid a pharalympiaid Cymreig

Felly beth mae diwrnod arferol yn ei olygu?

Yn ogystal â monitro’r adeiladau, mae staff diogelwch yn cyfarch yr holl ymwelwyr ac yn sicrhau diogelwch ar yr ystad. Maent hefyd yn gweithio gydag Aelodau’r Cynulliad, adrannau eraill a sefydliadau allanol i gynllunio digwyddiadau yn y Cynulliad.

Fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymwelwyr, mae’r tîm Diogelwch wedi ennill cryn dipyn o adborth ar ein tudalennau Trip Advisor a Facebook y Senedd. Mae rhai sylwadau diweddar yn cynnwys:

“… swyddogion diogelwch cyfeillgar oedd o gymorth mawr …”

 “… swyddogion diogelwch effeithlon iawn ond hwyliog …”

“Mae’r staff diogelwch yn neis iawn ac yn gyfeillgar, pan maen nhw’n dweud “Croeso i adeilad Cynulliad Cymru … ” gyda gwên gyfeillgar y mae’n cael effaith dda.”

 Beth sydd wedi bod yn uchafbwynt personol i chi wrth weithio yma?

“Gallu gweithio yn yr Agoriad Brenhinol. Rydych yn gweld y pethau hyn ar y teledu ond byth yn meddwl y byddwch yn cael y cyfle i fod yn rhan ohono. Hynny a chwrdd â Greg Davies o’r Inbetweeners pan oedd e yma. ” Laura

“Yr Agoriad Brenhinol – bod yn rhan o rywbeth mor fawreddog”. Dean

“Cwrdd â Bruce Dickinson o Iron Maiden, mae’n un o fy arwyr”. Shane

Staff Diogelwch ar ddiwrnod hwyl yn y Senedd

Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ymgeisio am y swydd?

“Mae’n sefydliad gwych, maent yn eich cefnogi pan fyddwch ei angen”.
Laura

“Mae’r ochr llesiant yn dda iawn, gallwch ddatblygu eich hun fel unigolyn.”
Dean

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad. Mae rhagor o wybodaeth am fanteision gweithio i ni ar gael ar ein Tudalennau Recriwtio.

Cael hybysiadau am Swyddi Diogelwch newydd

I gael gwybod rhagor am swyddi diogelwch gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ac i gael hysbysiadau am swyddi newydd e-bostiwch eich CV i  Swyddi@Cynulliad.Cymru

 

Swyddi Gwag   |   Gweithio i Aelod

 

Cor meibion yn y Senedd

Gwlad mewn Geiriau

Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, gwnaethom ofyn i gannoedd o bobl ddisgrifio beth y mae Cymru yn ei olygu iddyn nhw mewn dim ond un gair…

Gwnaethom wahodd ymwelwyr â’r Senedd i ysgrifennu eu geiriau ar gerdyn post a’i adael gyda ni. Gwnaethom hefyd ffilmio rhai gwirfoddolwyr hynod o wladgarol…

Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o eiriau yn dangos ystod o emosiynau, cysylltiadau a safbwyntiau. Mae’n ein hatgoffa am yr holl leisiau gwahanol y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eu cynrychioli.

Gwlad mewn geiriau / Wales in your words

Efallai ei fod hefyd wedi cadarnhau ambell beth yr oeddem ni’n ei wybod yn barod…


Nid yw’r tywydd yn dda iawn yng Nghymru… 

Roedd llawer o eiriau yn cyfeirio at hinsawdd enwog Cymru, gydag oer, llwyd, glawiog a gwlyb oll yn cael eu cynnig. Roedd un cerdyn post yn nodi’r gair cynnes, gyda nodyn ar ôl hynny’n egluro ‘ond nid y tywydd’. Rhag ofn i ni gamddeall.

warmcard

rainy-grey-cards

…ond mae’n brydferth ac rydych yn falch ohoni.

Ymhlith y geiriau mwyaf poblogaidd roedd amrywiadau ar y geiriau prydferth a balchder. Rhoddwyd geiriau fel trawiadol, golygfaol, mynyddoedd a gwyrdd hefyd, gan gyfeirio at dirwedd unigryw’r wlad.

stunning-green

pride-balchder

Mae Cymru yn wlad llawn hanes, diwylliant a chân… 

Roedd llawer o eiriau’n adlewyrchu treftadaeth gyfoethog Cymru, gyda nifer ohonoch yn dewis diwylliant, hanes, iaith, chwedlau, rygbi a cherddoriaeth.

Er na ddewisodd neb pêl-droed, fe ddewisodd rhywun Bale!

culture-rugby

Cymru yw eich cartref…

Cartref, adref a home yn Saesneg oedd y gair mwyaf poblogaidd ym mhob iaith. Cawsom lawer o eiriau cysylltiedig sy’n creu ymdeimlad o gartref a pherthyn, gan gynnwys: cymuned, hiraeth, ynghyd, croeso, etifeddiaeth, unedig, cariad, undod a gwreiddiau.

home-circle

Continue reading “Gwlad mewn Geiriau”

Mis Hanes LGBT – Pwysigrwydd Modelau Rôl

Gall cael modelau rôl LGBT gweladwy gael effaith drawsnewidiol ar greu gweithle a chymdeithas wirioneddol gynhwysol.

Mae canllaw diweddaraf Stonewall, Modelau Rôl: bod yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol yng Nghymru, yn cynnwys straeon ysbrydoledig gan amrywiaeth eang o bobl o wahanol gefndiroedd sy’n gweithio mewn meysydd gwahanol. Fe fyddwch yn adnabod un neu ddau ohonynt!

Mae Stonewall hefyd wedi cyhoeddi LGBT voices, sef casgliad o straeon personol gan bobl LGBT sydd wedi byw drwy anghydraddoldeb a phrofiadau nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu’n aml ar y teledu, mewn llyfrau, mewn ffilmiau neu mewn ysgolion.

Wrth gwrs, mae’n bwysig nodi y bydd gan grwpiau LGBT gwahanol fodelau rôl gwahanol. Mae’r Pride Power List 2016 yn cynnwys detholiad amrywiol o fodelau rôl LGBT: dynion, menywod, anneuaidd, traws, anabl, Du, Asiaidd, pobl o ffydd, pobl hŷn a phobl o amrywiaeth o gefndiroedd a gyrfaoedd.

Yma, mae rhai aelodau o’n rhwydwaith LHDT yn y gweithle yn egluro pam mae modelau rôl yn bwysig iddyn nhw:

“Y bobl mae gen’ i lawer o barch atyn nhw yw’r bobl sy’n barod i fynd un cam ymhellach ac i roi eu pen uwchben y parapet a herio’r status quo. Ni ddylech danbrisio’r gwahaniaeth y mae modelau rôl amlwg yn ei wneud i bobl. Mae’n gwneud gwahaniaeth i bobl pan mae’n peidio â bod yn rhywbeth haniaethol. Mae llawer o syniadau ystrydebol yn dal i fod, felly mae’n bwysig cael ystod amrywiol o fodelau rôl. Rwyf am gyfrannu at greu Cymru fodern, Cymru sy’n gynrychiadol.” Hannah Blythyn AC

“Mae’n bwysig cael modelau rôl amrywiol; ni all un person gynrychioli’r profiad hoyw yn ei gyfanrwydd.” Rhys Morgan, y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi

“Mae’n bwysig iawn bod pobl LHDT yn weladwy yn y sefydliad, bod pobl yn gweld nad yw gallu pobl i gyrraedd lefelau uwch wedi’i lesteirio oherwydd eu bod yn aelod o grŵp lleiafrifol. Mae gennym bobl ifanc sy’n dweud iddi gymryd tair blynedd iddynt ddod allan yn eu sefydliad blaenorol, a thair wythnos yma. Os ydych chi wedi cyrraedd sefyllfa lwyddiannus, os gallwch chi ysbrydoli rhywun arall, os gallwch arwain drwy esiampl, fe ddylech chi wneud hynny.” Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn a chyd-Gadeirydd OUT-NAW

“Rwy’n credu bod modelau rôl yn helpu i ddangos ei bod yn iawn bod yn chi eich hun.  Maen nhw’n dangos ichi na ddylai fod unrhyw gyfyngiadau ar bwy y gallwch fod a’r hyn y gallwch ei gyflawni.  Po fwyaf o fodelau rôl sydd yna a pho fwyaf yr amrywiaeth maen nhw’n ei chynrychioli, y mwyaf y gallwn chwalu rhwystrau a herio camsyniadau.” Lisa Bowkett, Pennaeth Cyllid a chyd-Gadeirydd OUT-NAW